P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

Geiriad y ddeiseb
Rydym yn pryderu am statws a defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o’r datblygiad hwn. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad i adael i’r Cofnod - dogfen o’r pwys symbolaidd mwyaf - droi bellach yn ddogfen uniaith Saesneg ar y cyfan, ar ôl iddi fod yn gwbl ddwyieithog ers 1999, yn gwbl groes i’r datblygiad hwn ac yn sathru ar statws swyddogol y Gymraeg.

Galwn felly ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at y polisi o ddarparu Cofnod dwyieithog cyflawn fel y gall pobl Cymru ddarllen trafodion Cynulliad yn eu hiaith eu hunain, boed hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mater o egwyddor yw hyn, parchu hawliau iaith pobl Cymru ar lefel sylfaenol.

Cyflwynwyd gan: Catrin Dafydd

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 27 Medi 2011

Nifer y llofnodion: 1,334


Gwybodaeth ategol:

Fel  Aelod o'r Cynulliad  fe fyddwch yn ymwybodol o'r penderfyniad a wnaed yn ystod y trydydd Cynulliad i beidio â darparu fersiwn dwyieithog llawn o Gofnod y Trafodion, ac o'r ffaith bod y penderfyniad hwn yn amhoblogaidd ymysg y cyhoedd yng Nghymru ac ymhlith Aelodau Cynulliad o bob plaid. Ysgrifennaf atoch ar ran  Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ofyn am ddychwelyd  at y polisi o ddarparu Cofnod dwyieithog cyflawn fel y gall pobl Cymru ddarllen trafodion y Cynulliad yn eu hiaith eu hunain, boed hynny yn Gymraeg neu'n Saesneg. Yr ydym wedi ysgrifennu at y Comisiwn a'r Llywydd ar y mater hwn a galwn arnoch chi i bwyso arnynt hefyd.

Mae'r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, yn dilyn pasio Mesur y Gymraeg 2011, ac rydym yn falch iawn o'r datblygiad hwn fel  chithau mae'n siŵr. Mae'r penderfyniad i adael i'r Cofnod dogfen o'r pwys symbolaidd mwyaf droi bellach yn ddogfen uniaith Saesneg ar y cyfan, ar ôl iddi fod yn gwbl ddwyieithog ers 1999, yn gwbl groes i'r datblygiad hwn ac yn sathru ar statws swyddogol y Gymraeg.

Clywsom yn ddiweddar fod cyfanswm y Gymraeg sy'n cael ei siarad yn y Cynulliad wedi dirywio'n sylweddol, ac rwy'n siŵr y byddwch am fynd i'r afael â'r broblem hon. Does dim dwywaith nad yw diffyg Cofnod dwyieithog yn ychwanegu at y broblem honno gan fod angen cyd-destun dwyieithog er mwyn i ddefnyddio'r Gymraeg yn y Siambr a'r tu hwnt fod yn gam naturiol. Mae perygl gwirioneddol i'r Gymraeg droi yn ddim mwy nag addurn yn y Cynulliad. Bydd hynny yn tanseilio'r Gymraeg ar draws gwlad.

Mae prinder Cofnod dwyieithog yn fater o bwys i ni ac yr ydym  yn barod i ymgyrchu ar y mater hwn. Rydym ar ddeall hefyd bod Bwrdd yr Iaith yn ymchwilio i'r mater o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Os yw'r Cynulliad ei hun yn torri ei Gynllun Iaith, pa obaith sydd i weddill sefydliadau Cymru?

Deallwn ei bod yn fwriad cyflwyno Bil ar gyfer diogelu'r Gymraeg yn y Cynulliad. Mae hyn yn rhywbeth y mawr ei angen, a byddwn yn cadw golwg ar y datblygiadau hynny. Fodd bynnag, mae sicrhau Cofnod dwyieithog unwaith eto yn hanfodol fel rhan o'r rhethreg ynghylch 'corff gwirioneddol ddwyieithog' sy'n cael ei ddefnyddio mor aml heb ystyried ystyr hynny. Mae angen cofnod dwyieithog fel man cychwyn cyn adeiladu ymhellach ar hynny wedyn. Mater o egwyddor yw hyn, parchu hawliau iaith pobl Cymru ar lefel sylfaenol.

Yn olaf hoffwn eich atgoffa: pan beidiodd y Cofnod â bod yn ddwyieithog am y tro cyntaf, daeth aelodau o bob plaid ynghyd i fynegi pryder ac i'n sicrhau y byddai'n parhau yn ddwyieithog. Erfyniwn arnoch felly i wyrdroi’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cynulliad blaenorol ynglŷn a'r mater hollbwysig hwn.